You are here

BAFTA yn lansio cyfle unwaith mewn bywyd i gyfarfod a menywod sy'n arwain y ffordd mewn ffilm, gemau a theledu

6 March 2020
BAFTA

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, bydd BAFTA yn cysylltu menywod creadigol blaenllaw â’r cyhoedd.

I gael cyfle i gysylltu â menywod yn cynnwys yr actor Aisling Bea; creawdwr Sex Education, Laurie Nunn; a’r dylunydd gwisgoedd, Sandy Powell, ymgeisiwch yn bafta.org/bafta-connects

 

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae BAFTA yn galw ar fenywod o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i ymgeisio am gyfle unigryw i ddod i adnabod sêr y diwydiant adloniant. Mae BAFTA Cysylltu yn gyfle unwaith mewn bywyd i 19 o ferched creadigol sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes ffilm, gemau neu deledu.

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw’r elfennau sy’n angenrheidiol i greu ffilm sy’n ennill BAFTA, wedi cael eich ysbrydoli gan y gwisgoedd yn Killing Eve, neu wedi pendroni ynghylch sut mae dod yn seren drama Netflix? Wel, dyma’ch cyfle i gael yr atebion, gan fod BAFTA yn cynnig cyfle i fenywod sy’n gobeithio datblygu gyrfa yn niwydiannau’r sgrîn gysylltu â menywod blaenllaw yn y diwydiant. 

Mae’r rhestr ddisglair o fenywod a fydd wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad yn cynnwys:

  •              Sandy Powell – dylunydd gwisgoedd (The Irishman, The Young Victoria)

  •              Aisling Bea – sgriptiwr ac actor (This Way Up, Living With Yourself, The Fall)

  •              Laurie Nunn – sgriptiwr (Sex Education)

  •              Delyth Thomas – cyfarwyddwr (Victoria, The Worst Witch, The Story of Tracey Beaker)

  •              Amanda Mealing – actor a chyfarwyddwr (Four Weddings and a Funeral, Casualty, The Dumping Ground)

  •              Coco Jackson – cynhyrchydd teledu (Dancing on Ice, The Voice)

  •              Adrienne Law – cynhyrchydd gemau (Monument Valley 2, Assemble with Care)

  •              Phoebe De Gaye – dylunydd gwisgoedd (Killing Eve, The Spanish Princess)

  •              Barbara Broccoli – cynhyrchydd ffilmiau (cyfres ffilmiau James Bond, Film Stars Don’t Die in Liverpool, The Rhythm Section)

  •              Nainita Desai – cyfansoddwr (For Sama, The Royal Wedding: Prince Harry and Meghan Markle)

  •              Elizabeth Karlsen – cynhyrchydd ffilmiau (Carol, Collette, On Chesil Beach)

  •              Daisy May Cooper – sgriptiwr ac actor (This Country, The Personal History of David Copperfield)

  •              Edith Bowman – darlledwr (Glastonbury, Saving Planet Earth, The Vue Film Show)

  •              Lindy Hemming – dylunydd gwisgoedd (Paddington 1 a 2, Wonder Woman)

  •              Pippa Harris – cynhyrchydd ffilmiau a theledu (1917, Call the Midwife, The Hollow Crown, Revolutionary Road)

  •              Arianne Philips – dylunydd gwisgoedd (Once Upon a Time… In Hollywood, A Single Man, Walk The Line)

  •              Pippa Bennett-Warner – actores (Johnny English Strikes Again, Harlots, World of War Craft)

  •              Stella Corradi – cyfarwyddwr (Macbeth, The Party, Little Soldier)

  •              Jo Twist – Prif Swyddog Gweithredol Ukie, sef corff masnach y diwydiant gemau ac adloniant rhyngweithiol yn y Deyrnas Unedig

Dywedodd Amanda Berry, OBE, Prif Weithredwr BAFTA: “Rydym yn falch iawn o fod yn hwyluso’r cysylltiadau hyn rhwng menywod disglair sydd â gyrfaoedd llwyddiannus a menywod ledled y Deyrnas Unedig sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes ffilmiau, gemau neu deledu. Mae BAFTA yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i gefnogi talent sy’n dod i’r amlwg o bob cefndir, ac rwy’n ysu am weld y parau gwych a’r sgyrsiau ysbrydoledig a ddaw o’r cyfle hwn.”

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â’r menywod blaenllaw gan BAFTA, a byddant yn cael cyfle i siarad â nhw naill ai dros y ffôn neu mewn cyfarfod wyneb yn wyneb, lle y gallant gael dealltwriaeth o’r diwydiant a chyngor i ddatblygu eu gyrfaoedd.

I ymgeisio, ewch i bafta.org a chyflwynwch fideo byr (llai na dwy funud) sy’n ateb y canlynol:

  •              Beth rydych chi’n ei hoffi fwyaf am ffilmiau, gemau neu deledu?

  •              Beth yw’ch rôl ddelfrydol yn y diwydiant, a pham?

Ni fydd gwerth cynhyrchu yn cael ei ystyried wrth ddewis, a gellir recordio fideos ar unrhyw ddyfais.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor nawr a bydd yn cau ddydd Llun 23 Mawrth am 10am.