You are here

BAFTA Cymru i gynnal dathliad o ddoniau cyfryngau creadigol Cymru yn rhan o Wythnos Cymru yn Llundain

27 February 2018
Apostle

Bydd Michael Sheen, Mark Lewis Jones, Elen Rhys a Gareth Evans yn ymuno â phanel o westeion, dan arweiniad y beirniad ffilmiau Jason Solomons

Tocynnau ar werth i’r cyhoedd

 

Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi manylion pellach dathliad arbennig o ddoniau cyfryngau creadigol Cymru yn rhan o’r rhaglen Wythnos Cymru yn Llundain sy’n tyfu. Bydd y noson yn cael ei gynnal ar 2 o Fawrth yn BAFTA, Piccadilly.

Yn dilyn digwyddiadau poblogaidd a gynhaliwyd yn y brifddinas, sydd wedi dathlu Sherlock; ffotograffydd Magnum, Philip Jones Griffiths; 25 mlynedd o Wobrau BAFTA Cymru a chyfarwyddwr Star Wars: Rogue One, Gareth Edwards yn y blynyddoedd diweddar, mae’r sylw’n troi eleni at ddiwydiant ffilm Cymru a’r ffilm gyntaf a ariannwyd gan Netflix i’w ffilmio yng Nghymru – Apostle.

Bydd mynychwyr y digwyddiad yn cael cyfle i weld darnau dethol o’r ffilm, a ffilmiwyd ym Mharc Margam yn 2017, am y tro cyntaf.

Yna, bydd panel o westeion yn ymuno â’r beirniad ffilmiau, Jason Solomons, i drafod dechreuad y ffilm hyd at gynlluniau ar gyfer ei dosbarthu, gyda’r actorion Michael Sheen, Elen Rhys (Broadchurch, Ordinary Lies, Hinterland), Mark Lewis Jones (Star Wars The Last Jedi, National Treasure, Stella, Hidden/Craith), y Cyfarwyddwr, Gareth Evans, y Cynhyrchwr, Ed Talfan a’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth, Matt Flannery.

Mae’r ffilm yn gweld y cyfarwyddwr o Gymru, sef Gareth Evans, sy’n fwyaf adnabyddus am ddod â’r grefft ymladd Indonesaidd, pencak silat, i fyd sinema trwy ei ffilmiau Merantau, The Raid, a The Raid 2, yn dychwelyd i Gymru i wneud ei ffilm gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Cynhyrchir y ffilm gan Ed Talfan o Severn Screen, sy’n adnabyddus am gydgynhyrchu Hinterland, a’r cwmni Americanaidd XYZ films. Caiff ei rhyddhau yn ddiweddarach yn 2018.

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at y dathliad hwn o ddoniau cyfryngau creadigol Cymru yng nghalon Llundain,” meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru. “Mae digwyddiadau tebyg a gynhaliwyd gennym yn flaenorol wedi helpu i godi proffil y prosiectau sy’n dod allan o Gymru a’r unigolion dawnus sy’n gweithio ym mhob maes o’n diwydiant, a chynnig cyfle i’r rhai sydd wedi’u lleoli yn Llundain sy’n frwd o blaid Cymru i ymwneud â’n gwaith elusennol.”

“Am y tro cyntaf eleni, byddwn yn cynnal Cinio Gala i godi arian a fydd yn cyd-fynd â’r digwyddiad holi ac ateb, lle y gall gwesteion fwynhau bwydlen Gymreig a baratowyd gan gogydd BAFTA yn awyrgylch hardd ystafell David Lean ym mhencadlys BAFTA, ochr yn ochr â’r siaradwyr gwadd. Bydd y rhai a fydd yn ymuno â ni hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arwerthiant mud o eitemau a fydd yn cynnwys posteri ffilm mewn ffrâm a lofnodwyd gan Bill Nighy ac Asa Butterfield; posteri dangosiad teledu cyntaf mewn ffrâm a lofnodwyd gan James Norton ac Adrian Edmonson a Jeraboams Siampên Taittinger a lofnodwyd gan Michael Palin, Sian Phillips, Aneurin Barnard, John Rhys Davies, Eve Myles, Alex Jones, Peter Capaldi a llawer mwy. Mae’n addo bod yn noson wych.”

Bydd y ffilm ar gael ar Netflix ym mis Medi 2018.


I brynu tocyn cliciwch yma


Noddwyd y digwyddiad gan DRESD