You are here

BAFTA Cymru a Sinemâu Cineworld yn ail-lansio partneriaeth

2 March 2015

Bar panoramig wedi’i ailwampio BAFTA Cymru yn croesawu gwesteion i ddigwyddiad arbennig ar 23 Chwefror i ail-lansio’r bartneriaeth

Mae Cineworld Caerdydd a BAFTA Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw adnewyddu eu partneriaeth, a fydd o fudd i aelodau a gwesteion.

Bydd y bartneriaeth yn atgyfnerthu’r bartneriaeth bresennol, sy’n cynnig i westeion ac aelodau BAFTA, ddefnydd o far BAFTA Cymru wedi’i gynllunio o’r newydd, a rhaglen reolaidd o ddangosiadau dathliadol a digwyddiadau ysbrydoledig i aelodau BAFTA Cymru.

I ddathlu’r bartneriaeth newydd ac edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, cynhaliodd BAFTA Cymru a Gŵyl Gwobr Iris rhagddangosiad ar y cyd a sesiwn holi ac ateb, ddydd Llun, 23 Chwefror.  

Yn y digwyddiad, a gefnogwyd gan Champagne Taittinger, Ethos, Spectrum a Gorilla, cafodd y gwesteion gyfle i weld rhagddangosiad o raglen olaf y gyfres uchel ei bri a gynhyrchwyd gan y BBC, Wolf Hall, a ffilmiwyd yn rhannol ar leoliad yn rhai o gestyll gorau Cymru. Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y dangosiad, gyda Rebecca Pearson, Rheolwr Lleoliad Cynorthwyol (The Theory of Everything, Les Misérables) a Josephine Wilkinson, yr Adran Gelf (Peaky Blinders, The Railway Man); a’r cadeirydd oedd Berwyn Rowlands.

Yn y digwyddiad hefyd, bu modd gweld rhagddangosiad o ffilm fer newydd Gwobr Iris, Followers, a ddewiswyd o blith dros 12,000 o geisiadau ar gyfer Gŵyl Ffilm Sundance 2015 fis diwethaf.

I gael gwybodaeth am aelodaeth BAFTA Cymru a rhaglen ddigwyddiadau, ewch i www.bafta.org/wales