You are here

GŴYL FFILM RYNGWLADOL CYMRU I BOBL IFANC ZOOM YN ŴYL A GYMERADWYIR GAN BAFTA CYMRU

6 January 2015
Zoom

Mae gŵyl ffilm fwyaf Cymru i bobl ifanc, sef Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru i Bobl Ifanc Zoom (ZIFF), wedi cael ei hychwanegu at y rhestr fawreddog o wyliau a gymeradwyir gan BAFTA Cymru, sy’n cymhwyso ffilmiau byr a hir a ddangosir yn y digwyddiad sy’n para wythnos ym mis Mawrth 2015, i gael eu henwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru. 

Cynhelir ZIFF rhwng 23 a 27 Mawrth 2015, a bydd yn cynnwys llu o weithdai yn seiliedig ar deledu a ffilm ledled Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n parhau i ymestyn ei gyrhaeddiad. Mae’r rhaglen lawn o ddangosiadau a gweithgareddau yn bwriadu gwella llythrennedd ffilm, hyrwyddo cydweithrediadau ac ehangu gorwelion a dyheadau’r cyfranogwyr.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:

"Rydym yn falch o gael ychwanegu Zoom at ein rhestr o wyliau cymeradwy. Rydym yn dibynnu’n fawr ar ein partneriaid i ddarganfod a dathlu’r gorau o ddoniau newydd yng Nghymru, a sicrhau bod y ffilmiau hyn yn cyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau, yn enwedig yn y categori ffurf fer, i gystadlu yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ym mis Hydref 2015."

Cyhoeddir rhaglen ddigwyddiadau ZIFF 2015 yn swyddogol ar 16 Rhagfyr 2014, a fydd yn cadarnhau’r lleoliadau cysylltiedig, y ffilmiau amrywiol o bob cwr o’r byd a ddewiswyd i’w dangos, animeiddio, cynhyrchu fideos cerddoriaeth a mwy. Mae BAFTA Cymru hefyd yn bwriadu cynnal nifer o ddigwyddiadau sydd â’r bwriad o annog doniau ifanc i ymuno â’r diwydiant ffilm, teledu a gemau.

Dywedodd Gemma Woolley, Cyfarwyddwr Zoom:

“Mae’r ŵyl yn parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn, ac ers 2007, rydym ni wedi cyrraedd a chynnwys dros 10,000 o bobl ifanc ledled de Cymru yn arbennig, nid yn unig er mwyn cael blas ar y digwyddiadau rydym yn eu cynnig, ond hefyd bod yn rhan hanfodol o’r tîm sy’n cyflwyno’r ŵyl.”

“Mae ein detholiadau ffilm yn amrywiol iawn ac wedi cael eu dewis yn ofalus i fodloni disgwyliadau ein cynulleidfaoedd, sy’n ystyried Zoom yn rhan bwysig o’u calendr. Mae cael ei chydnabod gan BAFTA Cymru yn ŵyl â chynnwys o ansawdd da sy’n gymwys i gael ei hystyried ar gyfer un o’i gwobrau, yn goron ar flwyddyn lwyddiannus a phrysur iawn i Zoom, sydd wedi cael sylw rhyngwladol cynyddol yn y cyfnod sy’n arwain at raglen yr ŵyl yn 2015.”

Bydd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru i Bobl Ifanc Zoom yn dod i ben ar 27 Mawrth gyda chydnabyddiaeth unigryw i Wobrau BAFTA ar ffurf Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom 2015 (ZYFAs), y gellir cyflwyno ceisiadau ar eu cyfer ar y wefan www.zoomcymru.com. Mae comedïau, fideos cerddoriaeth, dramâu, rhaglenni dogfen ac animeiddiadau gan bob ifanc yn rhai o’r mathau o ffilmiau byr y bydd Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom yn eu hanrhydeddu.

Caiff gŵyl eleni ei chefnogi gan Ffilm Cymru Wales ac mae Zoom hefyd yn cydnabod cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr (Pobl a Lleoedd, a Gwobrau i Bawb).

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r gwyliau cydnabyddedig gan BAFTA Cymru