You are here

Cwrdd â’r Tîm

Allison Dowzell - Cyfarwyddwraig

Allison Dowzell 2014Fel Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, mae Allison yn dod â dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o weithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu.

Dechreuodd Allison ei gyrfa gyda Darllediadau Allanol wedi’i lleoli yn BBC Llundain ac wedyn symud i gyfleusterau gyda grŵp Samuelson. Bu Allison wedyn yn arwain Comisiwn Sgrîn Cymru. Yn 2006 ymunodd Allison â Llywodraeth Cymru i weithio yn yr hyn oedd yr adeg honno yn dîm Diwydiannau Creadigol oedd newydd ei sefydlu. Yma ei swyddogaeth gyntaf yn y tîm oedd gofalu am y sectorau Ffilm a Theledu ac i weithio tuag at Ddiwydiant Ffilm cynaliadwy yng Nghymru. Ar ôl hynny bu’n arwain y tîm fel Uwch Reolwr Datblygu Ffilm a Darlledu o fewn y Sector Diwydiannau Creadigol.

Bu Allison yn gefnogwr brwd o BAFTA Cymru dros y deng mlynedd diwethaf fel aelod o’r pwyllgor, trysorydd ac yn fwy diweddar y dirprwy Gadeirydd.

Allison Dowzell
Tel +44 (0) 2920 223898
Email [email protected]

Fiona Lynch - Cydlynydd Digwyddiadau/Gwobrwyo

FionaMae Fiona bellach yn dechrau ei phedwaredd blwyddyn gyda BAFTA Cymru, ac mae ar hyn o bryd yn gyfrifol am raglennu a chyflwyno dangosiadau a digwyddiadau yn ne Cymru ar gyfer aelodau, yn ogystal â helpu i reoli Gwobrau BAFTA Cymru bob blwyddyn.

Cyn ymuno â BAFTA Cymru, bu Fiona’n gweithio mewn rolau digwyddiadau a marchnata amrywiol i sefydliadau celfyddydol, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Safle a Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Graddiodd Fiona o Brifysgol De Cymru gyda BA (Anrh) mewn Astudiaethau Diwylliannol a Chymdeithaseg.

Mae Fiona’n frwd iawn am fyd ffilmiau, y celfyddydau a llenyddiaeth.

Fiona Lynch
Tel +44 (0) 2920 223898
Email [email protected]

Claire Heat - Cydlynydd Digwyddiadau/Gwobrwyo

Claire HeatMae gan Claire 16 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig yn y sectorau cerddoriaeth, teledu, ffilm a’r cyfryngau rhyngweithiol.

Cyn ymuno a BAFTA Cymru, trafeiliodd y byd fel rheolwr teithio gyda amrhyw o wahanol fandiau. Cyn hynny, gweithiodd yn y tîm diwydiannau creadigol i Lywodraeth Cymru , fel rheolwr prosiectau ar gyfer Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac yn rheolwr prosiectau yn y Coal Exchange, Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae Claire yn gyfrifol am rhaglennu a cyflwyno dangosiadau a digwyddiadau yn ogystal a cynorthwyo gyda Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru.

Claire Heat
Tel +44 (0) 2920 223898
Email[email protected]

Holly Jones - Cydlynydd

Holly Jones Headshot

Mae gan Holly Camilla Jones saith mlynedd o brofiad yn y diwydiant teledu a ffilm. Dechreuodd weithio fel Golygydd Sain yn Soundworks, Caerdydd, cyn mynd ymlaen i weithio fel Ymchwilydd a Golygydd Cerddoriaeth llawrydd, gan weithio ar gynyrchiadau yn cynnwys Stella (Tidy Productions, Sky 1) a Switch (Touchpaper, ITV). Cyn gweithio ym maes ôl-gynhyrchu, roedd Holly yn gyflwynydd teledu ar raglen blant Stamina (Avanti, S4C).

Yn sgil byw yn Lisbon, mae Holly’n mwynhau profi diwylliannau gwahanol, yn enwedig bwyd tramor. Mae Holly wedi cael ei hyfforddi fel cerddor a dawnsiwr clasurol ac mae hi’n mwynhau chwarae’r piano, yr acordion a’r ffliwt. Mae hi wrth ei bodd yn ymweld â’r Cotswolds ac mae hi wedi treulio amser yn gweithio ac yn byw yn Tetbury, Swydd Gaerloyw.

Mae gweithio i BAFTA yn gyfle ardderchog i Holly ehangu ei gwybodaeth ac mae’n falch iawn o fod wedi cael ei dewis i chwarae rhan yn nhîm BAFTA Cymru.

Holly Jones
Tel +44 (0) 2920 223898
Email [email protected]