Yn ystod mis Mawrth 2017 mae BAFTA Cymru yn chwilio am aelodau Llawn newydd - innau drwy ysgogi aelodau cangen a chysylltiol i droi'n aelodau llawn, neu drwy chwilio am aelodau newydd sbon.
Mae gan BAFTA nifer o haenau aelodaeth, ac un ohonynt yw aelodaeth lawn.
Mae aelodaeth lawn yn cynnig hawliau pleidleisio yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig (Ffilm, Teledu, Plant, Gemau), yn ogystal â llu o fuddion eraill, gan gynnwys dangosiadau ymlaen llaw, digwyddiadau ledled y DU a mwy.
Mae gan yr Academi dros 7,000 o aelodau llawn ac, ar hyn o bryd, 100 ohonynt yn unig sy’n cynrychioli’r diwydiant yng Nghymru a byddem yn hoffi gweld cynnydd yn y nifer hon, fel bod lefel uwch o aelodau pleidleisio yng Nghymru ac felly cynrychiolaeth uwch yng Nghymru.
Felly, hoffem gwahodd ymarferwyr y diwydiant yng Nghymru i wneud cais am aelodaeth lawn Teledu neu Gemau.
Gobeithiaf fod y lefel aelodaeth hon o ddiddordeb i chi - mae modd cael rhagor o wybodaeth yn y Saesneg yma.
I ddechrau cais, cliciwch yma erbyn Mawrth 31.
Byddwn yn hapus i drafod hyn ymhellach â chi, petai hynny’n ddefnyddiol - danfonwch ebost at Hannah