You are here

25ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn agor ar gyfer ceisiadau gyda meini prawf cymhwysedd newydd

13 March 2016

BAFTA Cymru yn lansio galwad am geisiadau ym mlwyddyn pen-blwydd Gwobrau Cymru

Meini prawf ehangach yn sicrhau bod yr holl Gymry dawnus sy’n gweithio ar gynyrchiadau’r Deyrnas Unedig yn gymwys bellach

Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi lansio eu galwad am geisiadau ar gyfer Gwobrau Cymru 2016. Byddd y safle ymgeisio yn agor ar 15 Mawrth.

Bydd y 25ain seremoni, a fydd yn dathlu doniau yng Nghymru ar draws meysydd cynhyrchu ffilm a theledu a rolau crefft a pherfformio, yn cael ei chynnal ar 2 Hydref yn Neuadd Dewi Sant.

Gwahoddir unigolion a chwmnïau i enwebu cynyrchiadau a ddarlledwyd gyntaf neu a ddangoswyd mewn gŵyl ffilmiau gymeradwy rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016 erbyn y dyddiad cau, sef 26 Ebrill.

Yn sgil adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Gwobrau y llynedd, mae BAFTA Cymru bellach yn annog unigolion Cymreig sydd wedi gweithio ar gynyrchiadau Cymreig neu’r Deyrnas Unedig - yn hytrach na chynyrchiadau Cymreig yn unig - i ymgeisio am unrhyw un o’r 16 categori crefft a pherfformio. Bydd y newid hwn yn sicrhau bod BAFTA yng Nghymru yn gallu cydnabod gwaith unigolion dawnus sy’n gweithio ar gynyrchiadau rhwydwaith mewn rolau crefft neu berfformio ledled y Deyrnas Unedig.

Dywed Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Rydym ni’n awyddus i gydnabod rhagoriaeth y Cymry dawnus sy’n gweithio ym maes cynhyrchu ffilm a theledu yn y Deyrnas Unedig a bydd ein meini prawf cymhwysedd newydd yn caniatáu i ni ymgysylltu â chronfa ehangach o weithwyr proffesiynol a thaflu goleuni ar eu cyflawniadau diweddar. Mae BAFTA Cymru yn bodoli i ddathlu rhagoriaeth Gymreig yn y cyfryngau creadigol.” 

Anogir gweithwyr proffesiynol unigol i ymgeisio am y gwobrau eu hunain, yn ogystal â chwmnïau cynhyrchu a darlledwyr – cyn belled â’u bod wedi gweithio ar gynhyrchiad cymwys.

Mae BAFTA Cymru yn annog pobl ar bob cam o’u gyrfa i ymgeisio am y Gwobrau. Gall myfyrwyr a’r rhai hynny sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd creadigol, er enghraifft, ymgeisio am y categorïau Ffurf Fer neu Torri Drwodd, yn amodol ar gyflawni meini prawf cymhwysedd. Nid oes rhaid i ymgeiswyr fod yn Gymry i ymgeisio am Wobrau Cymru ychwaith. Mae ymgeisio’n agored i unrhyw un sydd wedi gweithio ar gynhyrchiad yng Nghymru, ar draws 28 categori.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i entry.bafta.org